Gŵyl Afon a Bwyd Aberteifi
10 Awst, 2013
Mae Gŵyl Afon a Bwyd Aberteifi wedi tyfu ac mae bellach yn denu miloedd o bobl i'r dref bob blwyddyn. Mae'r ŵyl yn dathlu Afon Teifi a hynny drwy ddigwyddiadau sy'n amrywio o gychod rasio i rasio hwyaid. Darperir adloniant drwy gydol y dydd a gall y plant gymryd rhan mewn dewis helaeth o wahanol weithgareddau.
Ond bwyd sydd wrth galon yr Ŵyl – y dewis o fwydydd sy'n cael eu tyfu neu eu paratoi yn yr ardal a safon y busnesau bwyd yn y rhan hon o Gymru, ac yn eu plith nifer o enillwyr Gwir Flas. Mae'r diwrnod yn rhoi cyfle i gynhyrchwyr bwyd lleol arddangos eu cynnyrch i drigolion yr ardal ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Cofiwch ymuno â ni – fe fydd digon i'w fwyta, i'w weld a'i fwynhau, felly galwch draw ac fe gewch flas o Aberteifi!