Amgueddfa Wlan Cymru

Dre-fach Felindre, Nr Newcastle Emlyn, Carmarthenshire
SA44 5UP
Fon: 01559 370929
www.museumwales.ac.uk E-Bost
O Ddafad i Ddefnydd
|
Gadewch i hanes gwlân - diwydiant pwysicaf Cymru ar un adeg - nyddu ei swyn yn yr amgueddfa unigryw hon sy'n dal i fod ar waith yn Nyffryn Teifi. Mynediad am Ddim.
Mae'n dechrau gyda'r ddafad ond yn gorffen yn wahanol iawn.
Hen ffatri Cambrian yw cartref yr amgueddfa hon, sy'n dipyn o drysor. Yma, cewch ddysgu mwy am y diwydiant fu'n cynhyrchu dillad, siolau a charthenni i weithwyr Cymru a gweddill y byd. Bydd crefftwyr wrth law i'ch tywys drwy'r broses gan egluro'r peririannau a'r offer traddodiadol i chi.
Ystofi ac Anwe
Cribo, nyddu, chwalu. Cenglwr a gwydd Dobcross. Erbyn diwedd eich ymweliad, fe fyddan nhw'n llawer mwy na geiriau. Os ydych am weld canlyniadau'r holl waith caled, ewch am dro i'r Oriel Decstilau. Cofiwch gadw llygad am y Wal o Flancedi.
Mae'r amgueddfa hefyd yn gartref i felin fasnachol, Melin Teifi, un o'r gwehyddion gwlanen olaf yng Nghymru. Cewch olwg unigryw ar y gwaith o rodfa uwchlaw'r llawr gwaith.
Dilynwch ni ar facebook neu twitter
Ar agor Ebrill - Medi: 10am - 5pm, bob dydd
Hydref - Mawrth: 10am - 5pm, dydd Mawrth - ddydd Sadwrn.
Rydym ni ym mhentref Drefach Felindre, 4 milltir i'r dwyrain o Gastellnewydd Emlyn a 16 milltir i'r gorllewin o Gaerfyrddin, oddi ar y A484. Dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown.
Cyfleusterau
* Parcio am ddim
* Cyfleusterau addysg
* Caffi, safle picnic, siop
* Toiledau gyda chyfleusterau newid cewynnau
* Clwb gwau (Dydd Mawrth 1af a 3ydd y mis)
* Teithiau dyddiol i blant ac oedolion
* Cart celf yn ystod gwyliau'r ysgol
* Arddangosiadau peiriannau ar waith
* Cornel chwarae i blant ifanc
* Croeso i grwpiau (gwnewch apwyntiad o flaen llaw)
Dychwelyd |