Y mae'r fflatiau sydd gennym o fewn Fronifor oll wedi'u henwi ar ol beirdd lleol - Eluned Phillips, T.Llew Jones a brodyr fferm y Cilie.
Rydym wedi bod yn ffodus o gael cwmni ambell i fardd mwy cyfoes yn aros yn y fflatiau. Comisiynwyd y bardd adnabyddus o Gaerfyrddin, Tudur Dylan Jones, gennym i ysgrifennu cerdd fawl i Dresaith ac i'r llety yr ydym yn eu cynnig yma. Y mae Dylan yn brifardd enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn yn 1995, ac union ddegawd wedi'r gamp honno, yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri yn 2005. Yr ydym yn hapus dros ben o allu cael Dylan fel ymwelydd gyda ni yn Nhresaith, ac i'r fangre hon ei ysbrydoli i ysgrifennu'r gerdd hon.
Tresaith Gwn am hafan, man i mi,
yn gynnes rhwng clogwyni,
lle mae ton ar don yn dod
a'i lanw yn wylanod,
bae a chreigiau a chregyn,
tir a thai, a'r traeth ei hun.
Yn awr mae lle i aros,
un man yn hafan drwy'r nos,
un gwesty i Gymru i gyd
yn y bae fwynhau bywyd,
un lle rhydd ymhell o'r haid,
lle i wen, a gwell enaid.
Tudur Dylan Jones
Dychwelyd |